O Fewn Dim

Clawr O Fewn Dim

Rhywle rhwng môr a mynydd
Rhywbryd rhwng gŵyl a gwaith
Rhywsut rhwng gair a gweithred
Rhywbeth rhwng gwefr a chraith

Weithiau bydd drws yn agor
Weithiau bydd drws yn cau
Weithiau bydd un yn unig
Weithiau bydd un yn ddau

Dim ond trwch blewyn
Rhwng ennill a cholli’r dydd
Dim ond trwch aden gwybedyn
Rhwng ildio a chadw ffydd

O fewn dim i fynd â hi
O fewn dim i’r ofnau du
O fewn dim, o fewn dim…

Rhywbryd rhwng gwawr a chyfnos
Rhywsut rhwng dysg a dawn
Rhywle rhwng mynd a dyfod
Rhywbeth rhwng gwag a llawn

Eiliad i weld dy gyfle
Eiliad, bydd hi’n rhy hwyr
Eiliad i godi pontydd
Eiliad i’w llosgi’n llwyr

Dim ond trwch blewyn
Rhwng ennill a cholli’r dydd
Dim ond trwch aden gwybedyn
Rhwng ildio a chadw ffydd

O fewn dim i fynd â hi
O fewn dim i’r ofnau du
O fewn dim, o fewn dim…

 

Hawlfraint © 2018 Cadi Gwen

Mwy o ganeuon

Cadi Gwen

Dilynwch fi