Nadolig am Ryw Hyd

Clawr Nadolig Am Ryw Hyd

Be wnei di? Mae’n Rhagfyr eto
Troi dy gefn ar firi’r stryd?
Cau’r llenni yn dynnach
A bolltio rhag y byd?
Mae na focs ym mhen draw’r atig
A choeden sy’n ddigon o sioe
Ond mae ei changhennau
Yn drwm dan dristwch ddoe.

Ond dwi’n gwybod fod na garol dlos
Yn canu yn dy ben
A dwi’n gwybod fod yn nyfnder nos
Un seren yn dy nen.

Am ryw hyd, gad i’r golau llachar befrio,
Yn wyn dy fyd, gad i’r eira bluo’i lawr,
Am ryw hyd, tria weld drwy lygaid plentyn
Yn wefr i gyd, gad i’r Dolig ddod â’r wawr.

Be wnei di â’r gaea’n gafael?
Cysgodi rhag yr awel fain?
Lapio’r t’wyllwch amdanat
A diffodd llun a sain,
Mae na focs ym mhen draw’r cwpwrdd
O ganhwyllau sy’n wincio fel sêr
Ond fin hwyr yn eu llewyrch
Fe weli ddagrau gŵer.

Ond dwi’n gwybod fod na garol dlos
Yn canu yn dy ben
A dwi’n gwybod fod yn nyfnder nos
Un seren yn dy nen.

Am ryw hyd, gad i’r golau ddal i befrio
Yn wyn dy fyd, gad i’r eira bluo’i lawr
Am ryw hyd, tria weld drwy lygaid plentyn
Yn wefr i gyd, gad i’r Dolig ddod a’r wawr.

 

Nadolig am Ryw Hyd
Hawlfraint © 2018 Cadi Gwen

Mwy o ganeuon
Gwrando ar Spotify

Cadi Gwen

Dilynwch fi